Adroddiad Drafft y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
CLA(4)-06-15
CLA491 - The Sea Fishing (Enforcement and Miscellaneous Provisions) Order 2015
Mae’r Gorchymyn cyfansawdd hwn yn dirymu offerynnau darfodedig ym maes pysgodfeydd. Cynhwysa hyn offerynnau sy’n gorfodi cyfyngiadau a rhwymedigaethau'r UE ym maes pysgota môr nad oes eu hangen bellach ar ôl newidiadau i Ddeddf Pysgodfeydd 1981.
Mae’r Gorchymyn hefyd yn rhoi pwerau i lysoedd adennill dirwyon yn erbyn pobl sy’n euog o dan adrannau penodol o’r Ddeddf Pysgodfeydd 1981.
Mae’r Gorchymyn hefyd yn penodi Gweinidogion Cymru, y Marine Management Organisation a Rural Development Northern Ireland yn awdurdodau cymwys at ddibenion monitro, arolygu a gorfodi amrywiol.
Mae’r Gorchymyn hefyd yn diweddaru cyfeiriadau at ddeddfwriaeth UE mewn amryw reoliadau.
Gweithdrefn: Negyddol
Craffu technegol
Nodwyd un pwynt i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.
· Mae’r Gorchymyn cyfansawdd hwn yn ddarostyngedig i drefn seneddol San Steffan, ac mae yn Saesneg yn unig.
Rheol Sefydlog 21.2(ix): nid yw’r offeryn wedi’i wneud neu i’w wneud yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Craffu ar rinweddau
Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
Chwefror 2015